Undeb Ewropeaidd yn cytuno i ohirio Brexit tan Ionawr 31

Diweddarwyd am  

Donald Tusk

Llun Platforma Obywatelska RP CC 2.0 trwy Commons Wikimedia

Mae llysgenhadon yr Undeb Ewropeaidd wedi cytuno i gais gwledydd Prydain i gael “estyniad hyblyg” ar gyfer Brexit tan Ionawr 31 2020, meddai llywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk.

Roedd y llysgenhadon wedi cwrdd y bore ma (dydd Llun, Hydref 28) i drafod y penderfyniad.

Mae’n caniatau i wledydd Prydain adael yn gynt os oes modd cael cytundeb.

Roedd y Prif Weinidog Boris Johnson wedi mynnu ei fod eisiau gadael erbyn Hydref 31.

Fe fydd y cyhoeddiad heddiw yn rhoi pwysau ar y gwrthbleidiau i benderfynu a ydyn nhw am gefnogi cais i gynnal etholiad cyffredinol ar  Ragfyr 12, gydag Aelodau Seneddol yn pleidleisio yn ddiweddarach heddiw.

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones