Mae Jeremy Corbyn yn dweud na fydd Llafur yn taro bargen etholiadol ag unrhyw blaid arall pe bai etholiad cyffredinol yn cael ei alw.

Ac mae’n dweud y byddai’n “hapus iawn” i frwydro mewn etholiad ar ôl gweld y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb yn cael ei ddileu.

Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn “niweidiol iawn”, meddai.

Mae’n dweud bod Boris Johnson yn bwriadu sefydlu cytundebau masnach â’r Unol Daleithiau a Donald Trump, ond mai “cytundeb un ffordd” fyddai unrhyw fargen o’r fath.

Byddai Llafur hefyd yn cynnig y gair olaf ar Brexit i bleidleiswyr, meddai.

Daw ei sylwadau o gynhadledd undeb Unite yn yr Alban.

‘Byddaf yn barod’

“Ar ôl etholiad cyffredinol, bydd gyda ni naill ai prif weinidog Torïaidd neu brif weinidog Llafur, does dim opsiwn arall ar gael,” meddai.

“Dw i’n mynd i frwydro yn yr etholiad hwnnw pan ddaw, eleni, pryd bynnag. Byddaf yn barod amdano.

“Fydd yna’r un fargen ag unrhyw blaid arall, rydym yn brwydro yn yr etholiad hwnnw i’w ennill ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.”

Mae Boris Johnson wedi cynnig rhagor o amser i ystyried Brexit os yw aelodau seneddol yn barod i gytuno mai ar Ragfyr 12 y bydd yr etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal.