Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar ôl i gar gael ei yrru at dorf ar ôl gêm rygbi yng Nghaerloyw.

Cafodd yr heddlu eu galw i stadiwm Kingsholm ar ôl y gêm rhwng Caerloyw a Wasps ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 26).

Dywed yr heddlu fod y gyrrwr wedi gadael y car a bygwth pobol â bat pêl fas cyn cael ei arestio gan gwnstabl arbennig oedd yn digwydd mynd heibio.

Chafodd neb ei anafu.

Mae dyn 27 oed yn y ddalfa ar amheuaeth o yrru’n beryglus, troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus a throseddau cyffuriau.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.