Mae Ruth Davidson, cyn-arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, dan y lach ar ôl iddi dderbyn swydd gyda’r cwmni PR, Tulchan Communications.

Mae’n dweud iddi ystyried y swydd yn ofalus cyn ei derbyn, wrth iddi dderbyn £50,000 am 25 diwrnod o waith y flwyddyn – a hynny ar ben ei chyflog o £63,579 fel aelod seneddol.

Mae hi’n annog unrhyw un sy’n credu iddi wneud unrhyw beth o’i le i fynd at y comisiynydd safonau, gan nad yw hi’n gallu cyfeirio’i hun.

Mae hi’n dweud hefyd ei bod hi’n barod i ildio’i chyflog tan bod y mater yn cael ei ddatrys, ac i gamu i lawr o Gorff Corfforaethol Senedd yr Alban am y tro.

“Ers i fi gael fy ethol yn 2011, dw i wedi gweithio’n galed i wneud cyfraniad positif nid yn unig i wleidyddiaeth yr Alban ond hefyd i Senedd yr Alban,” meddai.

“Dw i’n cymryd fy nghyfrifoldebau i Holyrood o ddifrif.”

Mae hi’n mynnu nad yw ei swydd yn gofyn ei bod hi’n lobïo nac yn ceisio na rhoi cyngor ar strategaeth seneddol.

Mae’r pleidiau eraill yn galw arni i gamu o’r neilltu yn sgil gwrthdaro buddiannau, er bod y Ceidwadwyr yn mynnu ei bod hi wedi dilyn rheolau seneddol.