Mae pedwar o bobol yn cael eu holi yn y ddalfa o hyd ar ôl i 39 o gyrff gael eu canfod yng nghefn lori yn Essex.

Cafodd dyn 48 oed o Ogledd Iwerddon ei arestio ym maes awyr Stansted ddoe (dydd Gwener, Hydref 25), ar amheuaeth o gynllwynio i fasnachu pobol ac o ddynladdiad.

Cyn hynny, roedden nhw wedi arestio cwpl, Thomas Maher a’i wraig Joanna, ar amheuaeth o 39 achos o ddynladdiad a o fasnachu pobol.

Cafodd Mo Robinson, y gyrrwr 25 oed, ei arestio ddydd Mercher (Hydref 23) ar ôl i’r cyrff gael eu canfod yng nghefn ei lori ar ystad ddiwydiannol yn ardal Grays yn Essex y diwrnod hwnnw.

Roedd lle i gredu’n wreiddiol mai trigolion o China oedden nhw, ond mae’n debyg erbyn hyn fod nifer o bobol o Fietnam yn eu plith hefyd.

Mae’r BBC yn adrodd iddyn nhw siarad â theuluoedd nifer o bobol sydd ar goll o Fietnam, gan gynnwys rhieni dynes 26 oed, Pham Tra My.

Clywson nhw ganddi nos Fawrth, pan ddywedodd hi ei bod hi’n mygu.

Maen nhw’n dweud iddyn nhw dalu £30,000 iddi gael ei chludo i wledydd Prydain, a bod yr arian wedi cael ei dalu’n ôl iddyn nhw.

Taith y lori

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pa lwybr gymerodd y lori.

Mae swyddogion yn dweud bod y cerbyd wedi cyrraedd Gwlad Belg ddydd Mawrth, gan adael yr un diwrnod am Purfleet yn Essex.

Fe gyrhaeddodd Essex amser cinio ddydd Mercher, gyda’r cab wedi cyrraedd Caergybi o Ogledd Iwerddon ddydd Sul.

Fe adawodd y lori Purfleet y diwrnod hwnnw, cyn i’r heddlu gael eu galw i’r ystad ddiwydiannol yn Essex.

Mae llysgenhadaeth Fietnam yn Llundain wedi clywed gan nifer o bobol yn gofyn am eu perthnasau.