Mae dynes o wledydd Prydain yn un o dri o bobol sydd wedi marw mewn stormydd yn Ffrainc.

Bu farw’r ddynes wedi i lifogydd ei sgubo o du allan i’w thŷ ym mhentref Cazouls-d’Haerault yn ne Ffrainc.

Cafodd y ddynes ei chludo i ysbyty gan hofrennydd wedi i wasanaethau brys ddod o hyd iddi.“

Rydym yn cefnogi teulu dynes Brydeinig sydd wedi marw yn Cazsouls-d’Herault ac mae ein staff mewn cyswllt gydag awdurdodau Ffrengig,” meddai’r Swyddfa Dramor.

Mae dros 2,000 o weithwyr gwasanaethau brys wedi eu galw i ddelio ag effaith ddinistriol y storm, sydd wedi taro wyth sir yn Ffrainc.

Gwelodd tref Beziers fwy o law yn disgyn yn ystod 24 awr nag yn y flwyddyn gynt yn ei chyfanrwydd.