Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i’r darganfyddiad o 39 corff yng nghefn lori yn Essex, bellach yn credu bod y cerbyd wedi cael mynediad i wledydd Prydain o borthladd yng ngwlad Belg.

Fe gafodd y lori a’r cyrff eu darganfod mewn parc diwydiannol yn ardal Grays, Essex, yn gynnar fore Mercher (Hydref 23).

Y gred yn wreiddiol oedd bod y cerbyd wedi dod i wledydd Prydain trwy borthladd Caergybi ar Hydref 19.

Ond erbyn hyn, mae’r heddlu o’r farn bod y lori wedi teithio o borthladd Zeebrugge, Gwlad Belg i Purfleet, Essex – nid nepell o’r fan lle cafodd ei ddarganfod.

Maen nhw hefyd yn credu bod y lori ei hun yn hanu o Ogledd Iwerddon. Mae dyn, 25, o’r wlad honno – sef gyrrwr y cerbyd – yn cael ei gwestiynu gan swyddogion ar hyn o bryd.

Mae’r ymchwiliad yn parhau.