Mae Prif Weinidog Iwerddon Leo Varadkar wedi gaddo cynnal ymchwiliad os yw hi’n dod i’r amlwg fod y lori oedd yn cario 39 o gyrff wedi pasio drwy Iwerddon.

“Mae’r wybodaeth rydym wedi ei gael hyd yn hyn yn fratiog ond mae yna adroddiadau sy’n awgrymu fod y lori wedi pasio drwy Iwerddon ar un adeg,” meddai wrth Senedd y Dàil.

“Felly yn amlwg rydym angen casglu mwy o wybodaeth a chynnal unrhyw ymchwiliadau sydd ei hangen.

Heddlu Iwerddon yn cynnig “pob cefnogaeth bosib”

Mae Heddlu Iwerddon wedi bod yn gweithio gyda heddlu Essex i geisio darganfod os y pasiodd y lori drwy Iwerddon.

Dywed yr heddlu eu bod yn “monitro datblygiadau yn y Deyrnas Unedig ac yn barod i gynnig pob cefnogaeth bosib iddyn nhw.”