Mae’r darganfyddiad o 39 corff yng nghefn lori yn Essex wedi cael ei ddisgrifio fel “trasiedi”.

Yn ôl Prif Weinidog Prydain, fe ddylai’r rhai a gyflawnodd y llofruddiaethau “gael eu dal ar unwaith” wrth i’r heddlu barhau a’r dasg o adnabod cyrff y dioddefwyr, sy’n cynnwys un person yn ei arddegau.

Fe gafodd y lori a’r cyrff eu darganfod mewn parc diwydiannol yn Grays, Essex yn gynnar fore Mercher (Hydref 23).

Dywed yr heddlu fod gyrrwr y lori – dyn, 25, o Ogledd Iwerddon – wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Y gred yw bod y lori wedi dod o Fwlgaria, ac wedi cael mynediad i wledydd Prydain trwy borthladd Caergybi ar Hydref 19.

Bydd olrhain taith y lori yn “rhan allweddol” o’r ymchwiliad, meddai’r heddlu wedyn. Mae pryderon y gallai’r cerbyd fod wedi teithio ar draws Cymru a Lloegr i Ewrop heb gael ei archwilio.

Mae’r ymchwiliad yn parhau.