Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth, wedi i ddyn gael ei drywanu i farwolaeth yn Colchester. .

Fe gafodd Murdoch Brown, 31, ei ladd yn yr ymosodiad ar Fai 7 eleni, ac fe gafodd dyn arall ei anafu yn yr un digwyddiad.

Mae Heddlu Essex yn cadarnhau fod Toyn Williams, 27, o Hale End yn nwyrain Llundain, ynghyd â Jay Dice, 32, o Leytonstone, dwyrain Llundain, wedi cael eu cyhuddo ddoe (dydd Mawrth. Hydref 22) gyda llofruddiaeth a cheisio llofruddiaeth.

Mae’r ddau hefyd wedi cael eu cyhudd o fod â rhan mewn cyflenwi cyffur Dosbaeth A, ac mae disgwyl iddyn nhw ill dau ymddangos gerbron Llys Ynadon Colchester heddiw (dydd Mercher, Hydref 23).

Mae bachgen 17 oed, a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio a cheisio llofruddio, wedi’i ryddhau ar fechnïaeth tan Dachwedd 15.

Mae dynes 27 oed, a gafodd ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, wedi cael ei rhyddhau dan ymchwiliad.

Ac mae dynes 30 oed, a gafodd ei harestio amheuaeth o gynllwynio i lofruddio ym mis Mai, wedi cael ei rhyddhau dan ymchwiliad.