Mae o leiaf 24% o fyfyrwyr prifysgolion gwledydd Prydain wedi cael eu haflonyddu’n hiliol, yn ôl adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dweud nad yw nifer o brifysgolion yn ymwybodol o’r broblem sydd yn digwydd ar “gyfradd bryderus a brawychus”, a’u bod nhw’n or-hyderus yn eu gallu i ymateb i’r argyfwng.

Cafodd myfyrwyr a staff prifysgolion eu cyfweld, ac fe gymerodd 1,000 o fyfyrwyr ran mewn arolwg.

Dywedodd cynifer â 44% o fyfyrwyr tramor iddyn nhw gael eu sarhau’n hiliol, ond fe ddywedodd 77% o’r ymatebion nad oedden nhw wedi adrodd am y sarhad i’w prifysgolion.

Dywedodd llai na hanner y staff oedd wedi nodi iddyn nhw brofi aflonyddu eu bod nhw wedi rhoi gwybod am y digwyddiad i’w cyflogwyr.

Yr adroddiad

“Mae prifysgolion yn or-hyderus y bydd unigolion yn adrodd am aflonydd, gyda 43% o brifysgolion yn credu bod pob achos o aflonyddu hiliol yn erbyn myfyrwyr yn cael ei adrodd, a 56% yn credu bod yr holl achosion yn erbyn staff yn cael eu hadrodd,” meddai’r adroddiad.

Ac mae Rebecca Hilsenrath, prif weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yn dweud ei bod yn “siomedig” fod prifysgolion “yn byw yn y gorffennol ac wedi methu â dysgu oddi wrth hanes”.

Mae’r comisiwn wedi argymell fod Llywodraeth Prydain yn ail-gyflwyno mesurau i warchod rhag aflonyddu a bod prifysgolion yn gwella’u prosesau ar gyfer gwneud cwynion.

Fe fydd sefydliad Prifysgolion y DU, sy’n cynrychioli 136 o sefydliadau yng ngwledydd Prydain, yn arwain camau i ymateb i aflonyddu hiliol, meddai.