Mae merch 15 oed o ddinas Bath wedi marw yn ystod trip cyfnewid i Sbaen.

Bu farw’r ferch o Ysgol Beechen Cliff, yn ystod “digwyddiad trychinebus” tra yn Cordoba, yn ne’r wlad.

Yn ôl adroddiadau, bu farw’r ferch drwy ddisgyn allan o ffenestr nos Sul (Hydref 20).

Dywed prif weithredwr Partneriaeth Ysgolion Midsomer Norton: “Mae adroddiad wedi cyrraedd yr ysgol yn ogystal â’r bartneriaeth fod digwyddiad trychinebus wedi digwydd yn ystod trip cyfnewid ysgol.

“Ar hyn o bryd does gennym ni ddim manylion pellach ac rydym yn gweithio’n agos gyda’r awdurdod lleol ac awdurdodau eraill.”