Bydd poblogaeth y Deyrnas Unedig yn cynyddu i fwy na 70 miliwn yn y deng mlynedd nesaf, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ond bydd graddfa tyfiant y boblogaeth yn arafach na’r hyn oedd wedi’i ragweld yn 2016.

Mae disgwyl i nifer y bobl sy’n byw yng ngwledydd Prydain gynyddu 4.5% yn ystod y 10 mlynedd nesaf, o tua 66.4m yn 2018 i 69.4m erbyn canol 2028.

Mae hyn yn golygu bod disgwyl i’r boblogaeth gynyddu i fwy na 70m erbyn canol 2013, gan gyrraedd 72.4m erbyn canol 2043.

Yn ystod y degawd nesaf mae disgwyl y bydd:

7.2 miliwn o bobl yn cael eu geni
6.4 miliwn o bobl yn marw
5.4 miliwn o bobl yn mewnfudo i’r Deyrnas Unedig
3.3 miliwn o bobl yn allfudo o’r Deyrnas Unedig

Graddfa tyfiant poblogaeth Cymru yn is na gweddill y Deyrnas Unedig

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol bydd llai o gynnydd ym mhoblogaeth Cymru na gweddill gwledydd y Deyrnas Unedig.

Mae disgwyl y bydd poblogaeth Lloegr wedi tyfu 5% rhwng 2018 a 2028, o’i gymharu â 3.7% yng Ngogledd Iwerddon, 1.8% yn yr Alban tra bydd graddfa tyfiant poblogaeth Cymru wedi tyfu 0.6% rhwng 2018 a 2028.