Mae Boris Johnson yn wynebu dadl ffyrnig gyda Llefarydd Tŷ’r Cyffredin yn y Senedd heddiw (dydd Llun, Hydref 21) wrth iddo geisio sicrhau pleidlais arall ar ei gytundeb Brexit.

John Bercow fydd yn penderfynu a fydd y Llywodraeth yn cael cynnal “pleidlais ystyrlon” ar ei chynlluniau Brexit. Ond mae Ceidwadwyr sydd o blaid Brexit wedi cyhuddo John Bercow o fod o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Os yw’r Llefarydd yn gwrthod cynnal y bleidlais fe fydd y Llywodraeth yn dod a’r Bil Ymadael gerbron Aelodau Seneddol ddydd Llun, gyda phleidlais ar ail ddarlleniad ddydd Mawrth.

Mae gweinidogion yn mynnu bod ganddyn nhw ddigon o bleidleisiau i sicrhau bod y cytundeb yn cael ei gymeradwyo ond fe allai Llafur geisio rhwystro’r ddeddfwriaeth drwy roi gwelliannau gerbron yn galw am ail refferendwm Brexit ac undeb dollau gyda’r UE.

Bu’n rhaid i’r Llywodraeth ofyn i Frwsel am ohirio Brexit unwaith eto ar ôl colli’r bleidlais ddydd Sadwrn.