Mae Llywodraeth Prydain yn paratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, yn ôl Michael Gove, sy’n dweud bod aelodau seneddol wedi cynyddu’r risg drwy ofyn am gael ymestyn y broses.

Daeth cadarnhad gan Ganghellor Dugiaeth Lancastr fod Cynllun Yellowhammer yn cael ei weithredu.

Ond mae’r cyhoeddiad yn cael ei weld gan rai fel ffordd o roi pwysau ychwanegol ar aelodau seneddol i dderbyn bargen Boris Johnson.

Mae’r prif weinidog yn mynnu y bydd Prydain yn gadael ar Hydref 31 yn ôl y disgwyl, ac mae’n dweud y bydd yn cyflwyno’r Cytundeb Ymadael i’r Senedd dros y dyddiau nesaf.

“Mae’r risg o adael heb gytundeb wedi cynyddu, mewn gwirionedd, oherwydd allwn ni ddim gwarantu y bydd Cyngor Ewrop yn rhoi estyniad,” meddai Michael Gove wrth Sky News.

“A dyna pam y bydda i, yn hwyrach heddiw, yn cadeirio cyfarfod o’r Cabinet, rhywbeth anghyffredin ar ddydd Sul, er mwyn sicrhau bod y cam nesaf yn ein paratoadau ymadael yn cael eu cyflymu, ynghyd â’n parodrwydd ni ar gyfer [Brexit] heb gytundeb.”

Mae’n dweud ei fod am sicrhau bod Llywodraeth Prydain wedi gwneud popeth posib cyn ymadael heb gytundeb.