Mae Llafur yn honni bod Boris Johnson yn euog o ddirmyg senedd ar ôl ymbellhau oddi wrth gais i ymestyn proses Brexit.

Mae John McDonnell, canghellor yr wrthblaid yn beirniadu’r ffordd y gwnaeth Boris Johnson wrthod llofnodi llythyr y senedd yn galw am ragor o amser i ystyried deddfwriaeth cyn derbyn ei fargen.

Fe ddywedodd Boris Johnson wrth benaethiaid Ewrop mai oherwydd pwysau gan y senedd yn unig y gwnaeth e ddanfon y llythyr.

Cafodd llungopi o’r llythyr heb lofnod ei ddanfon gan ddiplomydd, gyda llythyr atodol yn ei gyfiawnhau ac yn dweud y byddai ymestyn proses Brexit yn “niweidiol”.

“Mae’n debyg ei fod e’n euog o ddirmyg senedd neu’r llys oherwydd mae’n amlwg ei fod e’n ceisio tanseilio’r llythyr cyntaf ac o beidio â llofnodi’r llythyr,” meddai John McDonnell wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.

“Mae e’n ymddwyn ychydig bach fel crwtyn bach.

“Fe wnaeth y senedd benderfyniad, fe ddylai gadw at hwnnw ac mae’r syniad yma eich bod yn anfon llythyr arall yn gwrthddweud y cyntaf yn mynd yn groes i’r hyn y mae’r senedd a’r llysoedd wedi’i benderfynu.”

Mae Boris Johnson yn dal i fynnu nad yw’n fodlon ceisio estyniad o’r newydd.

Mae ‘gwelliant Letwin’ yn nodi bod rhaid sicrhau bod deddfwriaeth yn ei lle cyn bod modd ceisio ymestyn Brexit.