Mae bargen Brexit Boris Johnson yn “israddol” i gynigion blaenorol sydd wedi cael eu gwrthod, yn ôl un o aelodau Tŷ’r Arglwyddi.

Yn ôl y Farwnes Smith o Basildon, arweinydd Arglwyddi Llafur, mae’r fargen yn “anfoddhaol” ac yn methu ag uno’r genedl sydd wedi cael ei rhwygo gan fater ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Daw ei sylwadau wrth i aelodau seneddol barhau i drafod y fargen wrth gwrdd ar ddydd Sadwrn am y tro cyntaf ers 37 o flynyddoedd.

Mae’r Farwnes Smith yn rhybuddio bod pawb yn ddi-amynedd erbyn hyn, ac na fyddai ymestyn Brexit yn llwyddo oni bai bod Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn barod i gyfaddawdu neu geisio mandad gan y cyhoedd drwy etholiad cyffredinol.

Mae’n dweud bod y Ceidwadwyr wedi bod yn “analluog” wrth ymdrin â Brexit, ac y dylid troi at y bobol am sêl bendith pe bai’r fargen yn cael ei derbyn.