Mae Boris Johnson yn dweud ei bod hi’n bryd datrys sefyllfa Brexit sydd wedi gweld teuluoedd a ffrindiau’n anghytuno ers y refferendwm yn 2016.

Daw sylwadau prif weinidog Prydain wrth i aelodau seneddol gwrdd ar ddydd Sadwrn am y tro cyntaf ers 37 o flynyddoedd i drafod ei fargen i gau pen y mwdwl ar ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Fe ddechreuodd ei anerchiad yn San Steffan drwy ddiolch i aelodau seneddol am fethu diwedd gêm rygbi Lloegr yn erbyn Awstralia yn rownd wyth olaf Cwpan Rygbi’r Byd.

Ac fe ddywedodd ei fod yn gobeithio gallu cynnal “pleidlais ystyrlon” ar ddiwedd y trafodaethau heno.

Byrdwn ei anerchiad oedd galw ar aelodau seneddol i roi eu gwahaniaethau o’r neilltu er mwyn gwireddu dymuniad pobol yng ngwledydd Prydain oedd wedi pleidleisio dros Brexit yn y refferendwm yn 2016.

“Fydd dim angen atgoffa’r Tŷ mai dyma’r ail gytundeb a’r bedwaredd bleidlais, dair blynedd a hanner ar ôl i’r genedl bleidleisio dros Brexit,” meddai.

“Ac yn ystod y blynyddoedd hynny, fe fu straen rhwng cyfeillion, teuluoedd wedi’u hollti a sylw’r Tŷ hwn wedi’i hoelio ar fater unigol oedd yn teimlo ar adegau fel un na fyddai modd cael datrysiad yn ei gylch.

“Ond dw i’n gobeithio mai dyma’r foment pan allwn ni sicrhau’r datrysiad hwnnw a thynnu’r reddf ynghyd sy’n llechu y tu mewn i ni.”

Angerdd o bob cyfeiriad

Mae Boris Johnson yn cydnabod fod pobol yn angerddol o blaid ac yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd, gan ddweud mai dyna pam fod y broses wedi para cyhyd.

Ond mae’n dweud bod hynny wedi arwain at yr angen i geisio ateb “ar fyrder” ac i “adeiladu perthynas newydd â’n cyfeillion yn yr Undeb Ewropeaidd ar sail cytundeb newydd”.

“Oherwydd mae’r cytundeb hwn yn galluogi’r Deyrnas Unedig gyfan i adael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31 yn unol â’r refferendwm, tra’n edrych ymlaen ar yr un pryd at bartneriaeth newydd yn seiliedig ar rwymau mwyaf cyfeillgarwch a chydweithio.”

‘Croesawu craffu’

Mae’n dweud ei fod yn “croesawu unrhyw graffu” ar ei fargen yn ystod y trafodaethau heddiw, a hynny yn y gobaith o “ystyried y Bil Ymadael yr wythnos nesaf”.

Mae’n dweud bod yna “gyfle hanesyddol heddiw” i fod yn “eangfrydig” wrth sicrhau bod y broses Brexit yn cael ei chwblhau er mwyn cael symud ymlaen at faterion eraill.

Mae’n dweud y byddai rhoi sêl bendith i’w fargen yn gyfystyr â’r “adferiad mwyaf yn ein sofraniaeth genedlaethol yn hanes y senedd”.

Wfftio pryderon Jeremy Corbyn

Er bod Jeremy Corbyn wedi mynegi pryderon am ddiffyg sylw yn y fargen i’r amgylchedd a gwarchod swyddi, mae Boris Johnson yn mynnu bod ei wrthwynebydd yn “anghywir”.

“Bydd y llywodraeth a’r wlad hon yn cynnal y safonau uchaf a byddwn yn arwain ar warchod yr amgylchedd a gwarchodaeth gymdeithasol yn Ewrop ac ar draws y byd.”

Mae Boris Johnson yn dweud na fu Jeremy Corbyn yn “fodlon ymddyried pobol y wlad hon drwy roi’r hawl iddyn nhw ei farnu fe a’i bolisïau mewn etholiad cyffredinol”.

Mae’n galw ar aelodau seneddol i “anwybyddu ple” Jeremy Corbyn a “phleidleisio dros gytundeb gwych”.