Gallai cwmni camerâu Jessops, sydd ag un siop yng Nghymru, fynd i ddwylo’r gweinyddwyr chwe blynedd yn unig ar ôl iddo gael ei achub.

Mae Peter Jones, y beirniad ar raglen Dragon’s Den ac un o fuddsoddwyr y cwmni, yn paratoi i alw’r gweinyddwyr i mewn, gyda phosibilrwydd cryf fod swyddi am gael eu colli yn y 46 o siopau drwy wledydd Prydain.

Mae lle i gredu y bydd gwaith y gweinyddwyr yn canolbwyntio ar wneud toriadau yn y lle cyntaf, a hynny ar safleoedd nad ydyn nhw’n gwneud elw, ac ar leihau’r rhent.

Fe wnaeth y cwmni, sy’n cyflogi oddeutu 500 aelod o staff, golledion cyn treth o £13m yn ystod y flwyddyn hyd at Ebrill 2018.

Cafodd ei brynu gan Peter Jones a buddsoddwyr eraill yn 2013 ar ôl iddo fynd i ddwylo’r gweinyddwyr, cam a arweiniodd at gau 187 o siopau a cholli hyd at 1,500 o swyddi.

Ddeufis yn ddiweddarach, cafodd y cwmni ei sefydlu eto yn dilyn buddsoddiad o £4m, gan gyflogi nifer o gyn-weithwyr y cwmni eto.

Ar y pryd, cystadleuaeth gan gwmnïau ar-lein a chynnydd mewn ffonau symudol oedd yn cael y bai am ei dranc.

Agorodd y cwmni ei siop gyntaf yn 1935.