Bydd trafodaethau Brexit yn parhau heddiw (dydd Mercher, Hydref 16) ar y diwrnod olaf cyn uwchgynhadledd bwysig rhwng arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd.

Daeth y cyfarfodydd ym Mrwsel i ben yn yr oriau mân y bore yma, wrth i amser brinhau i Boris Johnson yn ei ymgais i ffurfio cytundeb.

Mae adroddiadau yn awgrymu bod cytundeb ar flaen bysedd y Prif Weinidog wedi iddo gyfaddawdu ar ffin Iwerddon.

Ond taflu dŵr oer ar yr awgrym mae Rhif 10, sy’n dweud: “Mae’r trafodaethau yn dal i fod yn adeiladol ond mae yna ragor o waith i’w wneud”.

Bydd Boris Johnson yn diweddaru ei Gabinet ynglŷn â’r sefyllfa yn hwyrach heddiw.

Mae disgwyl i arweinwyr Ewrop gyfarfod ym Mrwsel yfory (dydd Iau, Hydref 17) er mwyn trafod unrhyw gynigion am gytundeb Brexit.