Mae dau ddyn wedi cael eu trywanu ac fe fu ymosodiad ar ddyn arall mewn siop cigydd yng ngogledd Llundain.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Tottenham am 9.35 fore heddiw (dydd Sul, Hydref 13) yn dilyn adroddiadau am ddigwyddiad.

Daeth yr heddlu o hyd i ddau ddyn, 40 a 29 oed, oedd wedi cael anafiadau o ganlyniad i gael eu trywanu. Roedd dyn arall wedi dioddef ymosodiad.

Mae’r ddau a gafodd eu trywanu yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Mae’r dyn 40 oed mewn cyflwr sefydlog ond does dim gwybodaeth am gyflwr y dyn 29 oed ar hyn o bryd.

Does neb wedi cael ei arestio, ond mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad.