Roedd bron i 1,300 o brotestwyr amgylcheddol wedi cael eu harestio dros y dyddiau diwethaf erbyn y bore yma, ar chweched diwrnod o weithredu uniongyrchol yn Llundain.

Mae’r protestwyr wedi bod yn cymryd rhan yn nigwyddiadau’r mudiad Extinction Rebellion sy’n pwyso ar y llywodraeth i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Yn eu plith roedd tywysoges o Wlad Belg, Esmeralda Dereth, merch y diweddar frenin Leopold III, a gafodd ei holi gan yr heddlu a’i chadw yn y ddalfa am bum awr.

“Po fwyaf o bobl o bob rhan o gymdeithas fydd yn protestio, y mwyaf fydd yr effaith,” meddai, mewn cyfweliad â phapur newydd L’Echo yng Ngwlad Belg.

“Mae’r argyfwng hinsawdd yn galw ar bawb ohonom i roi pwysau ar lywodraethau i weithredu ar frys.”

Gweithwyr iechyd

Mae gweithwyr iechyd yn gorymdeithio o bencadlys Shell i Parliament Square heddiw, yn cario 40,000 o barau o esgidiau yn cynrychioli’r nifer o farwolaethau cynamserol o lygredd aer.

“Rydym yn cyfarfod y tu allan i Shell oherwydd nhw yw un o’r cwmnïau mwyaf yn y diwydiant olew ac ynni, ac mae ganddyn nhw rym gwirioneddol i ddatgarboneiddio’r diwydiant hwnnw,” meddai meddai Alex Turner, meddyg pediatreg o Fryste.

“Rydym yn protestio yn erbyn lefelau anghyfreithlon o lygredd aer.”