Mae cyn-feiciwr paralympaidd sy’n cael ei gyhuddo o ddringo i ben awyren British Airways, a glynu ei hun arni, wedi gwadu achosi niwsans cyhoeddus.

Clywodd Llys Ynadon Westminster y bore yma fod James Brown, 55 oed, o Exeter, wedi mynd i ben yr awyren ym maes awyr Dinas Llundain yn ystod protestiadau Extinction Rebellion dydd Iau.

Fe wnaeth ei gyfreithiwr gyflwyno ple dieuog ar ei ran.

Rhoddodd y barnwr fechnïaeth amodol iddo, gan ei wahardd rhag mynd o fewn milltir i unrhyw faes awyr yn y Deyrnas Unedig.

Fe fydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Southwark yn Llundain ar 8 Tachwedd.

Mae’r achos yn dod ar ddiwedd wythnos o brotestiadau yn erbyn diffyg gweithredu gan y llywodraeth ar yr argyfwng hinsawdd, gyda 1,100 o bobl yn cael eu harestio yn Llundain.

Bu James Brown yn cystadlu dros Brydain, Iwerddon a Gogledd Iwerddon mewn pum o gemau paralympaidd gan ennill dwy fedal aur ac un fedal efydd.