Mae Jeremy Corbyn wedi addo y byddai llywodraeth Lafur yn helpu sicrhau gwell chwarae teg i drefi glan-môr sydd wedi dioddef dirywiad economaidd dros y blynyddoedd diwethaf.

Mewn araith yn Hastings yn ne-ddwyrain Lloegr, dywedodd fod llawer o drefi glan-môr wedi cael eu dal yn ôl gan dlodi sydd wedi’i achosi gan naw mlynedd o lymder a thoriadau’r Torïaid.

“Nid yw tlodi ac anghydraddoldeb yn anochel,” meddai. “Yn y pumed gwlad gyfoethocaf yn y byd, ddylai neb gael ei orfodi i ddibynnu ar fanc bwyd i fwydo eu teulu, ddylai neb fod yn cysgu ar y stryd, a ddylai neb fod yn gweithio am gyflogau tlawd.”

Mae ei sylwadau’n dilyn ystadegau a gafodd eu cyhoeddi gan y BBC yr wythnos yma fod gweithwyr mewn arfordirol yn ennill £1,600 yn llai y flwyddyn ar gyfartaledd na rhai sy’n byw i mewn yn y tir. Mae dau draean o ardaloedd arfordirol hefyd wedi gweld gostyngiadau termau real mewn cyflogau ers 2010.

Fe all trefi glan-môr brofi i fod yn allweddol yn yr etholiad nesaf, gyda llawer ohonyn nhw mewn etholaethau ymylol, gan gynnwys Hastings, lle daliodd y cyn-weinidog cabinet Amber Rudd y sedd dros y Torïaid gyda 342 yn unig o fwyafrif yn 2017.

Yng Nghymru hefyd, mae etholaeth Dyffryn Clwyd sy’n cynnwys trefi Rhyl a Prestatyn hefyd yn sedd ymylol iawn rhwng Llafur a’r Torraid.