Bu rhai o gefnogwyr pêl-droed Lloegr yn achosio helyntion yn Prâg neithiwr, ychydig cyn i’w tîm golli 2-1 yn erbyn y Weriniaeth Tsiec.

Fe ddigwyddodd yr helyntion tua 7 o’r gloch mewn sgwâr bychan yn yr hen ddinas lle’r oedd cannoedd allan yn yfed ar y stryd.

Er bod pethau wedi bod yn weddol dawel hyd nes iddi nosi, aeth pethau’n flêr pan ddechreuodd rhai o’r hwliganiaid daflu poteli at yr heddlu. Fe wnaeth yr heddlu ymateb trwy eu rhybuddio i ufuddhau i’r gyfraith cyn tanio ‘stun grenades’ at y troseddwyr.

Cafodd o leiaf un o gefnogwyr Lloegr ei anafu, a chafodd 31 o bobl eu harestio.