Mae ymgyrchwyr hawliau anifeiliaid wedi bod yn cynnal protest ym marchnad bysgod Billingsgate yn Llundain.

Dywed y mudiad Animal Rebellion eu bod yn gwrthwynebu’r diwydiant pysgota ‘dinistriol’ a bod 28 o bobl wedi cael eu harestio.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan, Alex Lockwood, fod 200 wedi cymryd rhan yn y brotest, a’u bod wedi rhwystro cerbydau rhag mynd i mewn i’r farchnad bysgod enwog yn Canary Wharf am rai oriau y bore yma.