Gallai pobol farw o ganlyniad i Brexit heb gytundeb, yn ôl Pennaeth Iechyd Lloegr.

Dywed Sally Davies na allai sicrhau na fyddai prinder meddyginiaeth os yw’r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb gael effaith ar fewnforio meddyginiaeth.

“Rwyf wedi dweud na allwn sicrhau na fydd yno brinder, nid yn unig prinder meddyginiaeth, ond technoleg a theclynnau,” meddai.

“Ac mae’n bosib y bydd marwolaethau, allwn ni ddim sicrhau y bydd yno ddim.”

Daw hyn ychydig ddyddiau ar ôl i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi adroddiad lle mae’r Prif Weinidog Boris Johnson yn honni ei fod yn gallu dweud “gyda phob hyder” fod y Deyrnas Unedig yn barod i adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar Hydref 31.