Mae 80 tunnell o offer oedd yn yn cael ei ddefnyddio gan brotestwyr Extinction Rebellion wedi cael ei cipio gan yr heddlu yn Llundain.

Mae plismyn bellach yn clirio safle yn Sgwâr Trafalgar wedi i brotestwyr gael eu rhwystro rhag achosi ‘aflonyddwch’ yn y ddinas.

Maent wedi cipio gymaint o offer sy’n cynnwys pebyll, toiledau cludadwy a generadur – bydd yn llenwi wyth lori 10 tunnell.

Fe ddechreuodd Extinction Rebellion ar ddwy wythnos o brotestio ddydd Llun (Hydref 7), gan feddiannu deuddeg o safleoedd o gwmpas San Steffan.