Mae un o asiantaethau teithio mwyaf gwledydd Prydain yn dweud eu bod am achub miloedd o swyddi trwy brynu 555 o siopau Thomas Cook.

Mae Hays eisoes wedi cyflogi 421 o staff Thomas Cook ers i’r cwmni fynd i’r wal ar ddiwedd mis Medi.

Bwriad y cwmni yw ail-agor y 555 siop yn syth, gan geisio achub hyd at 2,500 o swyddi pellach.

Mae Hays hefyd wedi gado creu 100 o swyddi yn eu pencadlys yn Sunderland.