Byddai Brexit heb gytundeb yn gwthio dyled y Deyrnas Unedig i’r raddfa uchaf ers 50 mlynedd, yn ôl melin drafod.

Dywed melin drafod fod benthyg yn debygol o godi i £100bn ac y gall dyled y Deyrnas Unedig godi i 90% o incwm gwladol.

“Mae’r llywodraeth bellach ar gyfeilion heb unrhyw angor cyllidol,” meddai cyfarwyddwr Sefydliad Astudiaeth Gyllidol Paul Johnson.

Tra bod y Trysorlys yn honni y byddai unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud “wrth edrych ar gynaliadwyedd tymor hir cyllid cyhoeddus”.