Mae’r Blaid Lafur wedi cael ei chyhuddo o fod y “rhwystr mwyaf” i Aelodau Seneddol sy’n ceisio atal Brexit heb gytundeb.

Daw’r cyhuddiad gan ffynhonnell o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dilyn cyfarfod anodd rhwng y gwrthbleidiau.

Bwriad y cyfarfod oedd dod i benderfyniad ynghylch y camau nesaf ar ôl i Boris Johnson amlinellu ei gynllun Brexit yr wythnos ddiwethaf.

Roedd disgwyl i’r arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, gyfarfod â chynrychiolwyr o’r SNP, Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru, y Gwyrddion a’r Grŵp Annibynnol tros Newid.

Mae’n debyg mai achos y gynnen oedd amharodrwydd y Blaid Lafur i gefnogi ymgeisydd arall i arwain llywodraeth frys, er bod y pleidiau eraill i gyd yn barod i wneud hynny.

Mae’r gwrthryfelwyr Ceidwadol, y Grŵp Annibynnol tros Newid a’r Democratiaid Rhyddfrydol eisoes wedi dweud nad ydyn nhw’n cytuno â’r cynllun i wneud Jeremy Corbyn yn Brif Weinidog dros dro.

Neb yn cyfaddawdu?

“Safbwynt Jeremy Corbyn yw y gallwn ni gael llywodraeth frys, ond ar yr amod mai fe sy’n ei harwain,” meddai’r ffynhonnell o’r Democratiaid Rhyddfrydol.

“Maen nhw’n gwybod nad oes ganddyn nhw’r rhifau, ond maen nhw’n mynnu na fyddan nhw’n gweithio â neb arall.

“Mae eu hamharodrwydd i gydweithio ag eraill yn gwneud y Blaid Lafur y rhwystr mwyaf i atal Brexit heb gytundeb.”

Mae ffynhonnell arall o’r gwrthbleidiau wedi dweud bod angen i bob plaid gyfaddawdu wrth ystyried o ddifri y cynllun i ffurfio llywodraeth frys.

“Mae angen i’r Democratiaid Rhyddfrydol fod yn barod i gyfaddawdu hefyd, ac os yw Jeremy Corbyn yn gallu ffurfio mwyafrif, mae’n rhaid iddo gael yr opsiwn,” meddai’r ffynhonnell. “Dyna yw ei hawl gyfreithlon.”

Mae disgwyl cyfarfodydd pellach rhwng cynrychiolwyr y gwrthbleidiau yn ystod yr wythnos hon.