Mae Comisiynydd yr Heddlu Metropolitan, Cressida Dick, wedi ymddiheuro am y “camgymeriadau” a wnaed yn ystod ymchwiliad i honiadau ffug am gylch o bedoffiliaid yn San Steffan.

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi amlygu “methiannau sefydliadol” mewn adroddiad a gafodd ei gyhoeddi heddiw (dydd Llun, Hydref 7). Ond nid oedd wedi darganfod unrhyw dystiolaeth o gamymddygiad yn erbyn pum swyddog oedd yn gysylltiedig â’r ymchwiliad i’r honiadau ffug.

Roedd cyn-farnwr yr Uchel Lys Syr Richard Henriques wedi darganfod bod gwarantau i gynnal cyrchoedd ar gartrefi yr Arglwydd Bramall, y Fonesig Diana Brittan, gweddw’r cyn-ysgrifennydd cartref Leon Brittan, a’r cyn-Aelod Seneddol Harvey Proctor wedi eu cael yn “anghyfreithlon” a bod y barnwr a oedd wedi caniatáu’r gwarantau wedi cael ei “gamarwain”.

Fe ganfu’r IOPC nad oedd tystiolaeth bod y pum swyddog wedi camarwain y barnwr yn fwriadol ond roedd bylchau yn y prosesau a systemau, meddai’r adroddiad sy’n gwneud 16 o argymhellion.

Dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu: “Mae’r IOPC yn glir iawn bod yn rhaid cael atebolrwydd a sicrhau’r cyhoedd bod [yr heddlu] am fynd i’r afael a’r methiannau yma ry’n ni wedi’u hamlygu fel nad ydy’r camgymeriadau yma yn cael eu hailadrodd fyth eto.”

“Celwyddau ofnadwy”

Dywedodd Cressida Dick mewn datganiad: “Rwy’n ymddiheuro’n daer am y camgymeriadau a wnaed yn ystod ein hymchwiliad i’r celwyddau ofnadwy a wnaed gan Carl Beech. Ni ddylen nhw fod wedi digwydd.

“Mae fy rhagflaenydd wedi ymddiheuro wrth yr Arglwydd Bramall, y Fonesig Diana Brittan a Harvey Proctor. Rydw i wedi hefyd.”

Mae hi hefyd wedi diolch i Syr Richard Henriques am gyhoeddi’r adroddiad gan ychwanegu: “Er nad ydym yn derbyn yr holl argymhellion rydym wedi ceisio cyflwyno’r rhai sy’n fwyaf perthnasol yn ein gweithredoedd bob dydd.”