Mae’r Heddlu Metropolitan wedi arestio 21 o bobol yn ystod protest newid hinsawdd yn Llundain.

Mae protestwyr o’r grŵp Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion) wedi bod yn gorymdeithio drwy’r ddinas tuag at San Steffan ac yn bwriadu achosi pythefnos o aflonyddwch yno.

Mae’r protestwyr wedi gorymdeithio i Whitehall er mwyn “gorfodi’r Llywodraeth i gymryd camau i fynd i’r afael a’r argyfwng newid hinsawdd”.

Mae’r arestiadau diweddaraf yn ychwanegol at y rhai dros y penwythnos pan gafodd wyth o bobol eu harestio ddydd Sadwrn (Hydref 5) – saith ar amheuaeth o gynllwynio i achosi niwsans cyhoeddus a’r wythfed ar amheuaeth o rwystro’r heddlu.

Mae pob un a gafodd eu harestio ddydd Sadwrn bellach wedi’u rhyddhau o dan ymchwiliad.

Ddydd Sul, cafodd dynes a dau ddyn eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i achosi niwsans cyhoeddus. Mae’r ddynes wedi’i rhyddhau ac mae’r ddau ddyn yn parhau yn y ddalfa.