Mae Harvey Proctor, aelod seneddol yng nghanol yr honiadau am gylch pedoffilia yn San Steffan, yn galw ar Tom Watson, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, i ymddiswyddo yn sgil yr helynt.

Mae’n dweud ei fod e wedi cefnogi’r honiadau gan Carl Beech a arweiniodd at gyrch ar gartre’r cyn-wleidydd Ceidwadol.

Mae hefyd yn beirniadu’r modd yr aeth Heddlu Scotland Yard ati i ymchwilio i’r honiadau, ar ôl iddi ddod i’r amlwg nad oedden nhw wedi dilyn y broses gywir er mwyn sicrhau gwarant i chwilio eiddo.

Mae Harvey Proctor yn dweud y dylai Tom Watson ymddiswyddo am roi pwysau ychwanegol ar yr heddlu yn ystod yr ymchwiliad.

Cafodd eiddo’r cyn-filwr yr Arglwydd Bramall a’r Fonesig Diana Brittan, gwraig Leon Brittan, eu harchwilio fel rhan o’r ymchwiliad hefyd.

Mae Carl Beech bellach wedi’i garcharu am 18 mlynedd am honiadau ffug o dreisio, arteithio a llofruddiaeth gan nifer o bobol flaenllaw yn y lluoedd arfog, y gwasanaethau diogelwch a’r byd gwleidyddol.

Mae Harvey Proctor yn dwyn achos gwerth £1m yn erbyn Heddlu Llundain yn dilyn yr helynt.

“Dylai Heddlu Llundain gyfaddef a gwneud yn iawn am eu rhan yn yr hyn oedd yn gam oedd â chymhelliant gwleidyddol,” meddai Harvey Proctor.

“Mae ei benderfyniadau wedi’u cael yn wallus yn gyson, sy’n nam difrifol yng nghymeriad gwleidydd,” meddai wedyn am Tom Watson yn y Daily Telegraph.