Mae Dug Sussex, Tywysog Harry, wedi dechrau camau cyfreithiol yn erbyn y papurau newydd The Sun a’r Daily Mirror ar ôl honni eu bod nhw wedi hacio’i ffôn.

Dydy union natur yr honiadau yn yr Uchel Lys ddim wedi cael eu datgelu, ond maen nhw’n dod ychydig ddiwrnodau ar ôl i’w wraig, Meghan Markle, ddwyn achos yn erbyn y Mail on Sunday ar ôl iddyn nhw gyhoeddi ei llythyr at ei thad.

Mae News Group Newspapers, y cwmni sy’n cyhoeddi’r papurau ynghyd â’r News of the World sydd wedi dod i ben, wedi cadarnhau bod camau’n cael eu cymryd.

Mae cwmni Reach, sy’n berchen y Mirror, yn ymwybodol o’r camau cyfreithiol ond wedi gwrthod gwneud sylw hyd yn hyn.

Y cefndir

Mae lle i gredu bod Harry yn honni bod gwybodaeth wedi cael ei chasglu amdano mewn modd anghyfreithlon ar droad y ganrif, a hynny pan oedd ganddo fe ffôn symudol pan oedd e yn ei arddegau.

Roedd e’n feirniadol o’r wasg ddechrau’r wythnos pan ddaeth i’r amlwg fod ei wraig am ddwyn achos.

Mae’r cwpwl ar ymweliad ag Affrica ar hyn o bryd.

“Fe gollais i fy mam a nawr dw i’n gwylio fy ngwraig yn dioddef yn sgil yr un grymoedd pwerus,” meddai mewn datganiad, wrth gyfaddef ei fod yn cymryd risg wrth ddwyn achos.

Mae’r Mail on Sunday yn dweud eu bod nhw’n cadw at y stori a gafodd ei chyhoeddi.