Mae’r newyddiadurwr Peter Sissons wedi marw’n 77 oed.

Fe wnaeth ei yrfa gyda’r BBC, ITV a Channel 4 bara dros 40 mlynedd.

Daeth cadarnhad o’i farwolaeth yn yr ysbyty yng Nghaint gan ei asiant, a ddywedodd iddo farw gyda’i wraig a’i blant o’i gwmpas.

Gyrfa

Ymunodd Peter Sissons ag ITN yn 1964 ar ôl graddio o Brifysgol Rhydychen.

Cafodd ei benodi’n olygydd newyddion yn 1969, ac yn ohebydd diwydiannol flwyddyn yn ddiweddarach, ac yn olygydd diwydiannol yn 1972.

Maes o law, daeth yn brif ddarlledwr newyddion rhaglen News At One ITN.

Ymunodd e â’r BBC yn 1989 fel cyflwynydd Question Time, ac yn gyd-gyflwynydd rhaglen newyddion 6 o’r gloch y sianel.

Daeth yn gyflwynydd newyddion 9 o’r gloch yn 1994.

Fe wnaeth e ymddeol o’r byd darlledu yn 2009.