Mae cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, yn dweud ei bod hi’n “difaru dim” o’i gyrfa wleidyddol.

Dywed ei bod wedi cael “amser gwych” tra yn y brif swydd – er gwaetha’ Brexit. Ac mai ei hunig resyn oedd na chafodd ei rhieni fyw i gael gweld eu hunig ferch yn cyrraedd Rhif 10, Stryd Downing.

“Wnaethon nhw ddim hyd yn oed byw i fy ngweld yn dod yn gynghorydd, heb sôn am ddod yn Brif Weinidog,” meddai Theresa May.

“Dw i’n gobeithio y bydden nhw wedi bod yn falch.”

Roedd Theresa May yn siarad yng Ngŵyl Lenyddol Henley, bron i 200 milltir o gynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion.