Margaret Thatcher
Fe fydd cais yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi holl ddogfennau’r Cabinet yn ymwneud â thrychineb Hillsborough, yn cael ei drafod gan Aelodau Seneddol heddiw.

Mae hi’n 22 flynedd ers y drasiedi pan gafodd 96 o gefnogwyr pel-droed eu lladd yn Lerpwl.

Bydd Tŷ’r Cyffredin yn ystyried y cais ar ôl i e-ddeiseb, ag arni 100,000 o enwau, alw am ryddhau’r dogfennau.

Mae gweinidogion eisoes wedi awgrymu eu bod nhw’n gefnogol i’r cais i ryddhau’r dogfennau, gan gynnwys cofnodion pwysig o gyfarfodydd y Cabinet.

Mae teuluoedd y rhai a gafodd eu lladd yn Hillsborough yn arbennig o awyddus i glywed pa fath o brîff a roddodd Heddlu De Swydd Efrog i’r Prif Weinidog ar y pryd, Margaret Thatcher, yn ystod ei hymweliad y diwrnod wedi’r drasiedi yn 1989 yn stadiwm Sheffield Wednesday.

Mae disgwyl i Theresa May ategu heddiw bod y llywodraeth yn “ymroddedig i drylwyredd llwyr ynglŷn â thrychineb Hillsborough trwy ddatgelu’r manylion yn llawn.”

Dyma fydd yr ail ddeiseb i gael ei thrafod yn Nhŷ’r Cyffredin ers i’r glymblaid gyfwlyno’r system e-ddeisebau. Bu Aelodau Seneddol yn trafod y terfysgoedd yr wythnos diwethaf, ac mae disgwyl iddyn nhw drafod aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd cyn hir.