David Cameron
Mae David Cameron wedi cyfaddef bod yn rhaid i’r Llywodraeth ymdrechu’n “galetach ac yn gyflymach” i ostwng prisiau ynni.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog gwrdd â’r chwe phrif gwmni ynni, grwpiau sy’n ymgyrchu dros fuddiannau cwsmeriaid, ac Ofgem yn Downing Street heddiw.

Dywedodd David Cameron y byddai’n ceisio dod i gytundeb gyda’r cwmniau er mwyn ceisio gostwng biliau ynni ar gyfer cwsmeriaid dros y gaeaf.

Ychwanegodd bod biliau ynni wedi cynyddu mwy na £100 i bob cwsmer ers yr haf. Dywedodd na allai hyn fod wedi digwydd ar amser gwaeth i gwsmeriaid sydd eisioes wedi gweld prisiau petrol a bwyd yn codi.

‘Syml a thryloyw’

Ei nod,  meddai, yw cael yr help sydd ei angen ar bobl i ostwng eu biliau ynni erbyn  y gaeaf a chreu marchnad “syml a thryloyw y gall pobol ymddiried ynddi”.

Fe fydd Richard Lloyd, cyfarwyddwr Which? ymhlith y rhai fydd yn y cyfarfod. Dywedodd: “Mae hyn yn gyfle i’r cwmniau ynni i ddangos eu bod nhw’n deall pa  mor gandryll ydy pobol ynglŷn â phrisiau’n codi a’r gwasanaeth gwael i gwsmeriaid.”