Mae’r cwmni teithio Thomas Cook wedi rhoi’r gorau i weithredu ar unwaith ar ôl methu a sicrhau ymdrech olaf i achub y cwmni gan gredydwyr.

Roedd gan y cwmni ddyledion o £1.7bn.

Mae tua 150,000 o bobol o wledydd Prydain ar wyliau dramor ar hyn o bryd ac fe fydd angen gwneud trefniadau i’w cludo nol adref yn dilyn methiant y cwmni, meddai’r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA).

Mae hynny bron i ddwywaith nifer y bobol oedd dramor pan aeth cwmni Monarch i’r wal, meddai CAA.

Cafodd Thomas Cook ei sefydlu 178 mlynedd yn ôl. Mae methiant y cwmni heddiw (dydd Llun, Medi 23) yn golygu y bydd 21,000 o’i weithwyr mewn 16 o wledydd – gan gynnwys 9,000 yn y Deyrnas Unedig – yn colli eu swyddi. Mae gan Thomas Cook hefyd 600 o siopau stryd fawr yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd y CAA bod y Llywodraeth wedi gofyn iddyn nhw lansio rhaglen i gludo teithwyr Thomas Cook yn ôl adref dros y pythefnos nesaf, gan ddechrau heddiw hyd at ddydd Sul, Hydref 6.

Maen nhw wedi sicrhau 45 awyren o bob rhan o’r byd i’w cludo yn ôl i’r Deyrnas Unedig.

Mae gwefan penodol ar gael – thomascook.caa.co.uk – i roi manylion i deithwyr ond mae’r CAA yn eu rhybuddio i ddisgwyl rhywfaint o oedi.

Mewn datganiad dywedodd Thomas Cook bod heddiw yn “ddiwrnod trist iawn i’r cwmni, arloeswyr gwyliau parod a oedd wedi gwneud teithio yn bosib i filiynau o bobl ar draws y byd.”

Ymchwiliad 

Mae’r Ysgrifennydd Busnes Andrea Leadsom wedi galw ar y Gwasanaeth Ansolfedd i gyflymu eu hymchwiliad i Thomas Cook, gydag ymddygiad penaethiaid y cwmni hefyd yn dod o dan y chwyddwydr.

Fe fydd y Gwasanaeth Ansolfedd yn edrych ar yr amgylchiadau a arweiniodd at fethiant y cwmni. Fe fydd ymchwiliad hefyd i ymddygiad cyfarwyddwyr Thomas Cook, meddai’r Adran Drafnidiaeth.