Mae llanc 15 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o drywanu llanc arall, oedd hefyd yn 15 oed, i farwolaeth yn Slough.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad mewn parc am oddeutu 6.30 neithiwr (nos Sadwrn, Medi 21), yn dilyn ffrwgwd rhwng criw o ddynion.

Bu farw’r llanc yn y fan a’r lle, ond dydy e ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol hyd yn hyn.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.