Fe fydd penaethiaid cwmni gwyliau Thomas Cook yn cynnal trafodaethau â rhanddeiliaid allweddol heddiw (dydd Sul) er mwyn ceisio ei achub.

Daw’r cyhoeddiad yn sgil pryderon fod teithwyr sydd ar eu gwyliau yn Tiwnisia yn cael eu cloi mewn gwestai yn sgil pryderon na fydd arian ychwanegol maen nhw’n gofyn amdano’n cael ei dalu gan Thomas Cook.

Mae’r cwmni mewn perygl o fynd i ddwylo’r gweinyddwyr oni bai ei fod yn dod o hyd i werth £200m o arian ychwanegol.

Byddai’r cwmni’n mynd i’r wal yn golygu y byddai 150,000 o bobol ar eu gwyliau’n cael eu heffeithio.

Mae Llywodraeth Prydain dan bwysau i ymyrryd, wrth i’r cwmni sicrhau y bydd teithiau sydd eisoes wedi cael eu trefnu’n mynd yn eu blaenau yn ôl yr arfer.