Mae Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur, wedi ymateb i benderfyniad aelod blaenllaw o’i staff i adael ei swydd.

Mae Andrew Fisher, pennaeth polisi ac awdur maniffesto diwetha’r blaid, yn gadael ei swydd ar ddiwedd y flwyddyn er mwyn treulio mwy o amser gyda’i deulu, yn ôl Jeremy Corbyn.

Ond mae’r Sunday Times yn adrodd fod Andrew Fisher yn teimlo na fydd y blaid yn ennill yr etholiad cyffredinol nesaf, a’i fod e wedi cerdded allan o’i swydd yr wythnos ddiwethaf.

Yn ôl y papur newydd, mae e’n beirniadu “diffyg proffesiynoldeb, gallu a pharch” yr arweinydd a’r blaid, gan ddweud ei fod e wedi diflasu yn sgil “celwyddau ac esgusodion” di-ri.

Mae hefyd yn cyhuddo’r blaid o ddechrau “rhyfel dosbarth cymdeithasol”.

Teyrnged

Yn ôl Jeremy Corbyn, prif reswm Andrew Fisher am adael ei swydd yw er mwyn treulio mwy o amser gyda’i deulu.

“Mae e’n gydweithiwr gwych, yn ffrind gwych…,” meddai.

“Dw i wedi gweithio gydag Andrew ers 15 mlynedd, pan o’n i’n aelod o’r meinciau cefn a nifer o droeon eraill.

“Mae e’n ysgrifennwr gwych, yn feddyliwr gwych ac mae e wedi gwneud cryn dipyn o waith dros y blaid.

“Rydyn ni’n tynnu ymlaen yn dda iawn ac mae e wedi addo, beth bynnag fydd yn digwydd yn y dyfodol, y bydd e’n gweithio gyda fi ar faterion polisi.”