Mae Llywodraeth yr Alban wedi gwneud cais am £52m o arian wrth gefn er mwyn paratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb.

Mae’r arian wedi cael ei neilltuo ar drothwy ymadawiad disgwyliedig Prydain o’r Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31, ac mae Llywodraeth Prydain yn dweud y bydd yr arian ar gael i’r Alban pe bai’n wynebu costau afresymol yn sgil Brexit.

Mae Llywodraeth yr Alban, wrth gyflwyno’r cais, yn achub ar y cyfle i ategu eu gwrthwynebiad i Brexit ar unrhyw ffurf, gan alw am sicrwydd na fyddan nhw’n wynebu unrhyw gostau cysylltiedig.

Roedd y mwyafrif o Albanwyr wedi pleidleisio o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd adeg y refferendwm yn 2016.

Mae disgwyl i unrhyw arian y bydd yr Alban yn ei dderbyn gael ei wario ar gymunedau cefn gwlad, gwasanaethau Alban Forwrol a Heddlu’r Alban, ar gyfathrebu â thrigolion yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw yn yr Alban, ac ar fesurau i atal tlodi.

Dyfodol yr Alban ar ôl Brexit

Ddydd Gwener, fe wnaeth economegydd yn yr Alban ddarogan y gallai’r wlad golli gwerth £2m o fuddsoddiad yn sgil Brexit.

Yn ôl un rhagolwg gan Lywodraeth yr Alban, fe allai’r wlad golli £500m o fuddsoddiad yn sgil yr ansicrwydd hyd at ddiwedd y flwyddyn.

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain y bydd y cais yn cael ei ystyried “yn y modd arferol”.