William Hague
Mae’r Ysgrifennydd Tramor William Hague wedi gwrthod honniadau bod y cyn Weinidog Amddiffyn Liam Fox a’i ffrind Adam Werritty yn ceisio creu polisi tramor ar wahan i un swyddogol y llywodraeth.
“Nid yw un ymgynghorydd neu ddim-ymgynghorydd, beth bynnag ei fod i weinidog, yn gallu cynnal polisi cwbl wahanol i weddill y llywodraeth” meddai.
Wrth gael ei holi gan Andrew Marr ar y BBC dywedodd Mr Hague bod Dr Fox yn hytrach wedi cydweithredu efo’r Swyddfa Dramor ar faterion polisi.
Ychwanegodd Mr Hague y bydd adroddiad Ysgrifennydd y Cabinet Gus O’Donnell ar ymddygiad Liam Fox yn cael ei gyhoeddi “yn ystod y dyddiau nesaf”.
Ymddiswyddodd Dr Fox dydd Gwener diwethaf yn dilyn beirniadaeth am ei berthynas waith efo’i ffrind Adam Werritty. Cyfarfu Mr Werritty â Dr Fox 22 o weithiau yn y Weinyddiaeth Amddiffyn gan ymuno efo fo ar 18 o deithiau swyddogol dramor.
Roedd yn bresennol pan oedd Dr Fox yn cyfarfod aelodau o’r gwasanaethau milwrol, diplomatwyr a ymgymerwyr amddiffyn.
Yn y cyfamser mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod yn ystyried holi Adam Werritty, ynglyn â honniadau o dwyll.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dinas Llundain bod “swyddogion o’r adran trosedd economaidd yn ystyried y mater er mwyn penderfynu os yw’n briodol i gynnal ymchwiliad”.
Mae’r aelod seneddol Llafur, John Mann wedi gofyn i’r heddlu ymchwilio i honniadau bod Mr Werritty wedi twyllo wrth ddefnyddio cardiau busnes pan roedd yn honni ei fod yn gynghorydd i Mr Fox.
Dywedir bod Mr Werritty wedi derbyn arian gan nifer o gefnogwyr ariannog yn ystod y cyfnod yma.