Fe gysylltodd 331,337 o bobol ag elusen StepChange yn ystod chwe mis cyntaf 2019, i gael help gyda’u dyledion.

Dyma’r nifer mwyaf y mae’r elusen, a gafodd ei sefydlu 26 blynedd yn ól, wedi’i weld,  ac mae’r ystadegau yn dangos bod rhieni sengl a phobol â phroblemau iechyd meddwl yn arbennig o debygol o deimlo dan bwysau.

O’r holl bobol a gysylltodd â’r elusen, aeth 190,484 ymlaen i dderbyn cyngor dyled llawn. Roedd gan y bobol hyn, ar gyfartaledd, werth £ 3,799 o ddyled nad yw’n forgais.

Mae’n gynnydd o 2% o’i gymharu â chwe mis olaf 2018, a chynnydd o 6% ers 2016.

Roedd bron i draean (31%) o dreuliau cleientiaid newydd yn fwy na’u hincwm. Y diffyg misol ar gyfartaledd i’r cleientiaid hyn oedd £365, a digwyddiadau annisgwyl oedd achos y rhan fwyaf o ddyledion.