Mae ap newydd gan y BBC sydd wedi’i anelu at bobol ifanc yn cynnig cyngor a chefnogaeth ynghylch lles ar-lein..

Mae’r ap Own It yn cynnwys bysellfwrdd arbennig sy’n gallu adnabod ymadroddion a allai awgrymu ymddygiad a allai fod yn niweidiol iddyn nhw eu hunain neu i eraill.

Datblygwyd yr ap gyda mewnbwn gan sefydliadau sy’n rhan o dasglu’r Sefydliad Brenhinol ar atal bwlio ar-lein.

“Mae’r byd digidol yn lle gwych i bobol ddysgu a rhannu, ond rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobol ifanc yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i gydbwysedd iach ar-lein, yn enwedig pan maen nhw’n cael eu ffonau cyntaf,” meddai Alice Webb, cyfarwyddwr Plant ac Addysg y BBC.

“Rydyn ni’n defnyddio technoleg flaengar mewn ffordd nad oes unrhyw un wedi’i wneud o’r blaen, gan roi help, cefnogaeth, cymorth ac ychydig o hwyl hefyd yn uniongyrchol i bobol ifanc ar yr adegau pan maen nhw ei angen fwyaf.”

Gall y bysellfwrdd arbennig hefyd ganfod pan fydd plentyn yn nodi manylion personol a’u hatgoffa i feddwl ddwywaith a yw’n ddiogel gwneud hynny cyn rhannu.