Fe ddylai Canghellor y Trysorlys gyflwyno cynlluniau treth newydd er mwyn annog busnesau i fuddsoddi mewn robotiaid, yn ól grŵp o Aelodau Seneddol.

Mewn adroddiad newydd, mae Pwyllgor Dethol Strategaeth Busnes, Ynni a Diwydiannol Tŷ’r Cyffredin yn rhybuddio, os rheolir y newid i weithle mwy awtomataidd yn wael, y gallai grwpiau a rhanbarthau cyfan gael eu gadael ar ôl a bod yn anghystadleuol.

Mae’r grŵp trawsbleidiol yn dweud y dylai’r Trysorlys, yn hytrach na chyflwyno “treth robot”, gynnig cymhellion i gwmnïau sy’n gwario ar roboteg.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, yr Aelod Seneddol Llafur, Rachel Reeves, fod gwledydd Prydain ymhell ar ôl gwledydd eraill y G7.

“Mae’r Llywodraeth wedi methu â darparu’r arweinyddiaeth sydd ei hangen i helpu i yrru buddsoddiad mewn technolegau awtomeiddio a robotiaid,” meddai.

“Os ydym am elwa ar y buddion posib yn y dyfodol o wella safonau byw, gwaith mwy boddhaus, a’r wythnos waith pedwar diwrnod, mae angen i’r Llywodraeth wneud mwy i gefnogi busnesau a phrifysgolion Prydain i gydweithredu ac arloesi.

Mae’r adroddiad yn annog y Llywodraeth i gyflwyno Strategaeth Robot ac AI y Deyrnas Unedig erbyn diwedd 2020.”