Mae Downing Street y dweud fod gwaith yn dal i fynd rhagddo er mwyn gallu dweud yn iawn beth oedd y tu ȏl i ymosodiadau ar ffatri brosesu a maes olew allweddol yn Sawdi Arabia.

Mae’r Unol Daleithiau wedi honni mai Iran oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau – honiad y mae Tehran yn ei wadu.

Mae gwrthryfelwyr Houthi, a gefnogir gan Iran, sydd yn rhyfela â chlymblaid dan arweiniad Saudi sy’n ceisio adfer llywodraeth Yemen wedi honni iddynt gynnal y streiciau.

Mae Boris Johnson ac Angela Merkel “wedi trafod ymosodiadau ddydd Sadwrn yn Saudi Arabia a’r angen i weithio gyda’i gilydd, ochr yn ochr â phartneriaid rhyngwladol, i gytuno ar ymateb ar y cyd”.

Mae’r Deyrnas Unedig, yr Almaen a Ffrainc wedi cydweithio’n agos ar drin diplomyddol Iran, gan gefnogi bargen niwclear y wlad hyd yn oed ar ôl i Donald Trump dynnu’r Unol Daleithiau allan ohoni. Cyhoeddodd Donald Trump ddoe (dydd Llun, Medi 16) ei bod hi’n “ymddangos” fel mai Iran oedd y tu ôl i’r ymosodiad ar y cyfleusterau olew .