Gall algorithm newydd adnbaod y rheiny sy’n camddefnyddio eu cyfrifon Twitter ar gyfer bwlio pobol eraill ar-lein.

Mae’r feddalwedd yn dysgu peiriannau yn dadansoddi teimladau a’r defnydd o iaith, ac yn penderfynu pwy sy’n anfon negeseuon cas.

Daw’r ymchwil wrth i nifer o bersonoliaethau proffil uchel – gan gynnwys Gary Lineker a Rachel Riley – gefnogi ymgyrch newydd i anwybyddu ac adrodd ar negeseuon ymosodol i helpu i leihau lledaeniad casineb ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae’r dechnoleg newydd yn gallul chwilio a gwahaniaethu hwng ymddygiad ymosodol a rhyngweithio arferol.

Mae llwyfannau cyfryngau cymdeithasol wedi dod o dan bwysau cynyddol i wneud mwy i amddiffyn eu defnyddwyr rhag cynnwys atgas a niweidiol ar ôl i nifer o bryderon gael eu codi ynghylch effaith gwefannau o’r fath ar iechyd meddwl a lles, yn enwedig ymhlith pobol ifanc.

Roedd papur gwyn gan y llywodraeth a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn cynnig cyflwyno dyletswydd gofal statudol, a fyddai’n gorfodi rhwydweithiau cymdeithasol i amddiffyn eu defnyddwyr neu wynebu dirwyon mawr.